Cerdd Lambed
Llywydd: John Metcalf, MBE.
Is-Lywydd: Dr George Lilley.
Mae Cymdeithas Cerdd Llambed wedi bod yn cynnig cerddoriaeth fyw i Lanbedr Pont Steffan a’r fro ers 1982. Mae pob cyngherdd glasurol yn agored i aelodau’r clwb a'r cyhoedd.
Bob blwyddyn, mae'r clwb yn trefnu rhaglen danysgrifiol o chwe chyngerdd o gerddoriaeth gan gerddorion proffesiynol gwadd.
Trefnir digwyddiadau eraill (cyngherddau a nosweithiau cymdeithasol) ar lai o rybudd yn ystod y flwyddyn.
Felly - os ydych chi’n mwynhau cerddoriaeth fyw - beth am ymaelodi â Chymdeithas Cerdd Llambed?
Gellir prynu tocynnau wrth y drws ym mhob cyngerdd. Fodd bynnag, mae ymaelodi yn cynnig y gwerth gorau i fwynhau ein cyngherddau tanysgrifiol, yn ogystal â phris mynediad gostyngol i bob cyngerdd arall yr ydym yn eu trefnu. Cost aelodaeth yw £50 am y tymor (Consessynai: £40).